Os rhaid yfed dyfroedd Mara,
Mewn anial blin
tra paro 'ngyrfa,
O nertha di,
(fy Nhad, a'm Harglwydd,)
Fy ysbryd gwan mewn
byd o dramgwydd. [DM]
Er cael fy nghuro
yn nhrigfau dreigiau,
Suddo'n fynych dan y tonau;
Fe ddaw'r hyfryd
ddedwydd wawr-ddydd,
Na welir t'wyllwch
yn dragywydd. [G1]
Yno y derfydd fy nghystuddiau,
Troir fy ngalar yn ganiadau;
Yn lle Mara a'i dw'r anhyfryd,
Câf yfed byth
o afon bywyd. [MR]
Doed a ddelo, tra b'wyf yma,
Rho'f fy hun yn llaw Jehofa:
Efe yw Ffynnon iechydwriaeth,
Sy'n golchi'n lân bob llygredigaeth. [G1]
O na welwn ddydd yn dyfod,
I'm henaid eiddil gael gollyngdod,
O swn y rhyfel
a'r cystuddiau,
A myn'd i mewn i'r pur drigfanau. [G1]
Gwlad tu hwnt i gyraeddiadau,
Satan ddewr a'i demtasiynau;
Sydd wedi ei rhoddi yn yr arfaeth
I'm henaid gwan yn etifeddiaeth. [G1]
- - - - -
Os rhaid yfed dyfroedd Mara
Mewn anial blin
tra paro 'ngyrfa:
O nertha di, fy Nhad a'm Harglwydd,
F'yspryd gwan mewn
byd o dramgwydd. [DM]
Daccw'r ffynnon bur hawddgara',
A gannodd filoedd fel yr eira,
Daccw'r dwr'r mi gwympaf iddo,
A deued i mi fel y delo. [G3]
'Rwy' fi'n myn'd i wlad i drigo,
Lle mae gloyw hedd yn llifo,
At gyfeillion mil
mwy hawddgar,
Na neb a welwyd ar y ddaear. [G3]
Yno y derfydd fy nghystuddiau,
Troir fy ngalar yn ganiadau;
Yn lle Mara a'i dw'r anhyfryd,
Câf yfed byth
o afon bywyd. [MR]
- - - - -
Os rhaid yfed dyfroedd Mara,
Yn yr anial ar fy ngyrfa,
Nertha di, fy Nhad a'm Harglwydd,
F'ysbryd gwan mewn
byd o dramgwydd. [DM]
Er fy nghuro 'n
nhrigfa dreigiau,
Suddo'n fynych dan y tonau;
Fe ddaw'r hyfryd
ddedwydd wawrddydd,
Heb dywyllwch yn dragywydd. [MD]
Yna derfydd fy nghystuddiau,
Troir fy ngalar yn ganiadau;
Yn lle Mara ddŵr anhyfryd,
Yfed câf o
afon bywyd. [MR]
- - - - -
Os rhaid yfed dyfroedd Marah
Yn yr anial ar fy ngyrfa,
Nertha Di, fy Nhad a'm Harglwydd,
F'ysbryd gwàn mewn
byd o dramgwydd. [DM]
Tra rhaid imi wisgo'r arfau,
Dwyn y groes trwy orthrymderau,
Rho Dy gwmni - dyna ddigon,
Nes myn'd adre' i wisgo'r goron. [G2]
Yno derfydd fy nghystuddiau,
Troir fy ngalar yn ganiadau;
Yn lle Marah, ddwfr anhyfryd,
Yfed gâf o
afon bywyd. [MR]
'N awr wrth gofio'r hên Iorddonen,
F'enaid athrist gân yn llawen,
Âf ar fỳr i'r
wlad na dderfydd
Llawn orfoledd yn dragywydd. [MR]
DM: David Morris 1744-91G1: Grawn-Sypiau Canaan 1805 G2: Grawn-Sypiau Canaan 1806 G3: Grawn-Sypiau Canaan 1829 MD: Casgliad Morris Davies 1835
Tonau [88.88]: gwelir: Doed a ddelo tra b'wyf yma Milwr ydwyf sydd ofidus |
If I must drink the waters of Mara,
In a grievous desert
while my course continues,
O strengthen thou,
(my Father and my Lord,)
My weak spirit in a
world of transgression.
Although getting beaten
in the dwellings of dragons,
Sinking often under the waves;
The delightful, happy
dawn of day shall come,
When darkness is not
to be seen for eternity.
Then shall end my afflictions,
My lamenting is to be turned into songs;
Instead of Mara and its unpleasant water,
I shall get to drink forever
from the river of life.
Come what may, while ever I live here,
I will put myself in the hand of Jehovah:
He is the Fount of salvation,
That washes clean all corruption.
O that I may see a day coming,
For my feeble soul to get release,
From the sound of the war
and the afflictions,
And go into the pure dwellings.
A land beyond the reaches,
Of bold Satan and his temptations;
Which is appointed in the scheme
For my weak soul as an inheritance.
- - - - -
If I must drink the waters of Mara
In a grievous desert
while my course continues,
O strengthen thou, my Father and my Lord,
My weak spirit in a
world of transgression.
Yonder is the pure, most beautiful fount,
Which bleached thousands like the snow,
Yonder is the water I will fall into,
And let come to me what may.
I am going to a land to reside,
Where shining peace is flowing,
To friends a thousand
times more handsome,
Than any seen on the earth.
There shall end my afflictions,
My lamenting is to be turned into songs;
Instead of Mara and its upleasant water,
I shall get to drink forever
from the river of life.
- - - - -
If I must drink the waters of Mara
In the desert on my course,
Strengthen thou, my Father and my Lord,
My weak spirit in a
world of transgression.
Although being beaten in
a dwelling of dragons,
Sinking often under the waves;
The delightful, happy
dawn of day shall come,
Without darkness eternally.
Then shall end my afflictions,
My lamenting is to be turned into songs;
Instead of Mara's unpleasant water,
I shall get to drink from
the river of life.
- - - - -
If I must drink the waters of Marah
In the desert on my course,
Strengthen Thou, my Father and my Lord,
My weak spirit in a
world of transgression.
While I must wear weapons,
Carry the cross through oppressions,
Grant thy company - that is sufficient,
Until I go home to wear the crown.
There shall end my afflictions,
My lamenting is to be turned into songs;
Instead of Marah, unpleasant water,
I shall get to drink from
the river of life.
Now on remembering the old Jordan,
My sad soul will sing joyfully,
I will go shortly to the
land that will not end
Full of jubilation eternally.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|